Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”
“Pam wyt ti’n gofyn cwestiynau i mi am beth sy’n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy’n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i’r bywyd, ufuddha i’r gorchmynion.”
“Pa rai?” meddai.
Atebodd Iesu, “ ‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’ .”
“Dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd,” meddai’r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.”
Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae’n anodd i rywun cyfoethog adael i’r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. Gadewch i mi ddweud eto – mae’n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw. Ond dyma Iesu’n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae’r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw’n gallu gwneud popeth!”
Yna dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni’n ei gael?”
Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol. Ond bydd llawer o’r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a’r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”