Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?” “Pam wyt ti’n gofyn cwestiynau i mi am beth sy’n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy’n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i’r bywyd, ufuddha i’r gorchmynion.” “Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “ ‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun’ .” “Dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd,” meddai’r dyn ifanc, “ond mae rhywbeth ar goll.” Atebodd Iesu, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Darllen Mathew 19
Gwranda ar Mathew 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 19:16-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos