O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i’w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai’r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde’n ofnadwy. Byddai’n cael ei ladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Dyma Pedr yn mynd ag e i’r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a’n gwaredo!” meddai, “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!” Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o’m golwg i Satan! Rwyt ti’n rhwystr i mi; rwyt ti’n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw’n eu gweld nhw.” Yna dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros erailla cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy’n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn.
Darllen Mathew 16
Gwranda ar Mathew 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 16:21-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos