Tua’r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu. Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae’n gallu gwneud gwyrthiau.”
Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a’i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy’r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.” Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.
Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod gymaint nes iddo dyngu ar lw y byddai’n rhoi iddi beth bynnag oedd hi’n gofyn amdano. Gyda’i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a’i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn i’w roi iddi. Anfonodd filwyr i’r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd. Wedyn, dyma nhw’n dod â’r pen ar hambwrdd a’i roi i’r ferch fach, a rhoddodd hithau e i’w mam. Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a’i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.
Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a’i ddilyn ar droed o’r trefi. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i’r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.
Pan oedd hi’n dechrau nosi, dyma’r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i’r pentrefi i brynu bwyd.”
Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.”
Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”
“Dewch â nhw i mi,” meddai. A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi’r torthau i’w ddisgyblion, a dyma’r disgyblion yn eu rhannu i’r bobl. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi’u gadael dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!