Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd!” Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.” Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma’r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”
Darllen Luc 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 9:57-62
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos