Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8:40-56

Luc 8:40-56 BNET

Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw’r llyn, roedd tyrfa yno i’w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano. Dyma ddyn o’r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu’n daer arno i fynd i’w dŷ. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o’i gwmpas. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella. Sleifiodd at Iesu o’r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma’r gwaedu yn stopio’n syth. “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu. Wrth i bawb wadu’r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae’r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!” Ond dyma Iesu’n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i’n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.” Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi’n dod a syrthio o’i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a’i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno. A dyma Iesu’n dweud wrthi, “Ferch annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!” Tra oedd Iesu’n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni’r athro ddim mwy.” Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi’n cael ei hiacháu.” Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni’r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e. Roedd y lle’n llawn o bobl yn galaru ac udo crio ar ei hôl. “Stopiwch y sŵn yma,” meddai Iesu, “dydy hi ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw’n gwybod ei bod hi wedi marw. Dyma Iesu’n gafael yn llaw’r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!” Daeth bywyd yn ôl i’w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a’r lle. Wedyn dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth iddi i’w fwyta. Roedd ei rhieni wedi’u syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.