Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8:4-15

Luc 8:4-15 BNET

Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: “Aeth ffermwr allan i hau hadau. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr. Cafodd ei sathru dan draed, a dyma’r adar yn ei fwyta. Dyma beth ohono yn syrthio ar dir creigiog, ond wrth ddechrau tyfu dyma fe’n gwywo am fod dim dŵr ganddo. A dyma beth yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain yr un pryd a thagu’r planhigion. Ond syrthiodd peth ohono ar bridd da. Tyfodd hwnnw, a rhoddodd gnwd oedd gan gwaith mwy na beth gafodd ei hau.” Ar ôl dweud hyn, galwodd allan yn uchel, “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Yn nes ymlaen dyma’i ddisgyblion yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori. Atebodd Iesu, “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’ “Dyma beth ydy ystyr y stori: Neges Duw ydy’r hadau. Y rhai ar y llwybr ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae’r diafol yn dod ac yn cipio’r neges oddi arnyn nhw, i’w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub. Y rhai ar y tir creigiog ydy’r bobl hynny sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy’r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw’n credu am sbel, ond pan ddaw’r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw’n rhoi’r gorau iddi. Yna’r rhai syrthiodd i ganol drain ydy’r bobl sy’n clywed y neges, ond mae poeni drwy’r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu. Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy’r bobl hynny sy’n clywed y neges ac yn dal gafael i’r diwedd – pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae’r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth.