Dyma nhw’n cyrraedd ardal Gerasa sydd yr ochr draw i’r llyn o Galilea. Wrth i Iesu gamu allan o’r cwch i’r lan dyma ddyn o’r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i’w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith – roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau. Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o’i flaen gan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i’n crefu arnat ti, paid poenydio fi!” (Roedd Iesu newydd orchymyn i’r ysbryd drwg ddod allan o’r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli’r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda’i ddwylo a’i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i’r anialwch.) A dyma Iesu’n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo.
Darllen Luc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 8:26-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos