Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4:31-44

Luc 4:31-44 BNET

Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu’r bobl yno ar y Saboth. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno. Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi’i feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg.) “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i’n dinistrio ni. Dw i’n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!” “Bydd ddistaw!” meddai Iesu’n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma’r cythraul yn taflu’r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo. Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy’n mynd ymlaen? Mae ganddo’r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!” Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy’r ardal i gyd. Dyma Iesu’n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw’n gofyn i Iesu ei helpu hi. Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i’r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a’r lle! Yna dyma hi’n codi o’i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw. Ar ôl i’r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda’u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw. A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw’n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy. Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw’n ceisio ei stopio rhag mynd. Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea.