Roedd dau ddyn arall oedd yn droseddwyr yn cael eu harwain allan i gael eu dienyddio gyda Iesu. Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‘Y Benglog’, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad. Roedd y bobl yno’n gwylio’r cwbl, a’r arweinwyr yn chwerthin ar ei ben a’i wawdio. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “felly gadewch iddo’i achub ei hun, os mai fe ydy’r Meseia mae Duw wedi’i ddewis!” Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw’n cynnig gwin sur rhad iddo ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!” Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON. Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!” Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.” Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
Darllen Luc 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 23:32-43
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos