Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio: “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall. Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi. “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i. Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i’n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’” Yna meddai’r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i’w dysgu yma. Dych chi’n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e’n amddiffyn y bobl mae wedi’u dewis iddo’i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i’r rhai sy’n galw arno ddydd a nos! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”
Darllen Luc 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 18:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos