“Neu petai gan ryw wraig ddeg darn arian, ac yn colli un ohonyn nhw. Byddai hi’n cynnau lamp ac yn mynd ati i lanhau’r tŷ i gyd, a chwilio ym mhob twll a chornel am y darn arian nes iddi ddod o hyd iddo. Pan mae’n dod o hyd iddo, mae’n galw’i ffrindiau a’i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i’r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’ Wir i chi, dyna sut mae Duw yn dathlu o flaen ei angylion pan mae un pechadur yn troi ato!”
Aeth Iesu yn ei flaen i ddweud stori arall: “Roedd rhyw ddyn a dau fab ganddo. Dyma’r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o’r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma’r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.
“Yn fuan wedyn, dyma’r mab ifancaf yn gwerthu’r cwbl lot, gadael cartref a theithio i wlad bell. Yno gwastraffodd ei arian i gyd ar fywyd gwyllt. Ar ôl iddo golli’r cwbl bu newyn difrifol drwy’r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu. Llwyddodd i berswadio rhywun i roi gwaith iddo, a chafodd ei anfon allan i’r caeau i ofalu am foch. Aeth pethau mor ddrwg nes ei fod yn cael ei demtio i fwyta peth o’r bwyd moch! Doedd neb yn rhoi dim arall iddo.
“Yna o’r diwedd, calliodd, ac meddai ‘Beth dw i’n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd. Af i adre at dad, a dweud wrtho: Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o’r gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gen ti.’ Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre.
“Gwelodd ei dad e’n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a’i gofleidio a’i gusanu.
“A dyma’r mab yn dweud wrtho, ‘Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy.’ Meddai’r tad wrth y gweision, ‘Brysiwch! Ewch i nôl mantell iddo ei gwisgo – yr un orau! Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau ar ei draed. Yna ewch i ladd y llo sydd wedi cael ei besgi, i ni gael parti! Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi’i gael yn ôl.’ Felly dyma’r parti’n dechrau.
“Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio. Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd. ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi’i besgi i ddathlu ei fod wedi’i gael yn ôl yn saff.’
“Ond dyma’r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma’i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn. Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau! Ond dyma hwn yn dod adre – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae’n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi’i besgi i hwn!’
“‘Machgen i,’ meddai’r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl. Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi’i gael yn ôl!’”