Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi’n aberthu i Dduw. “Ydych chi’n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?” “Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!” “Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? – un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?” “Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!” Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu’n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd. Felly dyma’r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi’n wastraff o dir da.’ “‘Ond syr,’ meddai’r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o’i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi.
Darllen Luc 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 13:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos