Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 11:1-12

Luc 11:1-12 BNET

Un diwrnod roedd Iesu’n gweddïo mewn lle arbennig. Pan oedd wedi gorffen, dyma un o’i ddisgyblion yn gofyn iddo, “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.” Dwedodd wrthyn nhw, “Wrth weddïo dwedwch fel hyn: ‘Dad, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw bob dydd. Maddau ein pechodau i ni – achos dŷn ni’n maddau i’r rhai sy’n pechu yn ein herbyn ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi.’” Yna dwedodd hyn: “Cymerwch fod gynnoch chi ffrind, a’ch bod yn mynd ato am hanner nos ac yn dweud, ‘Wnei di fenthyg tair torth o fara i mi? Mae yna ffrind arall i mi wedi galw heibio i ngweld i, a does gen i ddim byd i’w roi iddo i’w fwyta.’ “Mae’r ffrind sydd yn y tŷ yn ateb, ‘Gad lonydd i mi. Dw i wedi cloi’r drws ac mae’r plant yn y gwely gyda mi. Alla i ddim dy helpu di.’ Ond wir i chi, er ei fod yn gwrthod codi i roi bara iddo am eu bod yn ffrindiau; rhag achosi cywilydd bydd yn codi yn y diwedd, ac yn rhoi popeth mae e eisiau iddo. “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor. Mae pawb sy’n gofyn yn derbyn; pawb sy’n chwilio yn cael; ac mae’r drws yn cael ei agor i bawb sy’n curo. “Pwy ohonoch chi fyddai’n rhoi neidr i’ch plentyn pan mae’n gofyn am bysgodyn? Neu sgorpion pan mae’n gofyn am ŵy? Wrth gwrs ddim!