Ond wedyn dyma Samariad yn dod i’r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e’r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a’u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a’i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno. Y diwrnod wedyn rhoddodd ddau ddenariws i berchennog y llety. ‘Gofala amdano,’ meddai wrtho, ‘Ac os bydd costau ychwanegol, gwna i dalu i ti y tro nesa bydda i’n mynd heibio.’ “Felly” meddai Iesu, “yn dy farn di, pa un o’r tri fu’n gymydog i’r dyn wnaeth y lladron ymosod arno?” Dyma’r arbenigwr yn y Gyfraith yn ateb, “Yr un wnaeth ei helpu.” A dwedodd Iesu, “Dos dithau a gwna’r un fath.”
Darllen Luc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 10:33-37
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos