Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 6:1-20

Josua 6:1-20 BNET

Roedd giatiau Jericho wedi’u cau’n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r ddinas. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i’n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di’n concro ei brenin a’i byddin! Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod. Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda’r offeiriaid yn chwythu’r cyrn hwrdd. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i’r fyddin i gyd weiddi’n uchel. Bydd waliau’r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a’r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i’r ddinas.” Felly dyma Josua fab Nwn yn galw’r offeiriaid ato a dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o’i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.” A dyma fe’n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.” Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma’r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a’r tu ôl i’r offeiriaid oedd yn chwythu’r cyrn hwrdd. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!” Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith, cyn mynd yn ôl i’r gwersyll ac aros yno dros nos. Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad. A dyma’r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a’r tu ôl i’r offeiriaid oedd yn chwythu’r cyrn hwrdd. Dyma nhw’n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna’n mynd yn ôl i’r gwersyll. A dyma nhw’n gwneud yr un peth am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw’n codi gyda’r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o’r blaen – ond y tro yma dyma nhw’n mynd o’i chwmpas hi saith gwaith. Y seithfed gwaith rownd, dyma’r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi’r ddinas i chi! Mae’r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio’n llwyr, fel offrwm i’r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a’r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio’r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon. A gwyliwch nad ydych chi’n cymryd unrhyw beth sydd i fod i gael ei ddinistrio. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi’n rhoi pobl Israel mewn perygl, ac yn achosi dinistr ofnadwy. Yr ARGLWYDD sydd biau popeth wedi’i wneud o arian neu aur, pres neu haearn. Mae’r pethau hynny i gyd i’w cadw yn stordy’r ARGLWYDD.” Pan glywodd y bobl y corn hwrdd yn seinio, dyma nhw’n gweiddi’n uchel. Syrthiodd wal y ddinas, a dyma’r milwyr yn mynd yn syth i mewn iddi ac yn ei choncro.