Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’ ” (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi’i anrhydeddu.) Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o’r bobl yn dweud, “Y Proffwyd soniodd Moses amdano ydy’r dyn yma, siŵr o fod!” Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? Onid ydy’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu’r Brenin Dafydd ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?” Felly roedd y dyrfa wedi’i rhannu – rhai o’i blaid ac eraill yn ei erbyn.
Darllen Ioan 7
Gwranda ar Ioan 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 7:37-43
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos