Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 6:1-71

Ioan 6:1-71 BNET

Beth amser ar ôl hyn croesodd Iesu i ochr draw Llyn Galilea (hynny ydy, Llyn Tiberias). Aeth tyrfa fawr o bobl ar ei ôl am eu bod wedi gweld ei arwyddion gwyrthiol yn iacháu pobl oedd yn sâl. Dringodd Iesu i ben y bryn, ac eistedd yno gyda’i ddisgyblion. Roedd Gŵyl y Pasg (un o wyliau’r Iddewon) yn agos. Pan welodd Iesu dyrfa fawr yn dod ato, gofynnodd i Philip, “Ble dŷn ni’n mynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” (Roedd eisiau gweld beth fyddai ymateb Philip, achos roedd Iesu’n gwybod beth roedd e’n mynd i’w wneud.) Atebodd Philip, “Byddai angen ffortiwn i brynu digon o fwyd i bob un ohonyn nhw gael tamaid bach!” Yna dyma un o’r disgyblion eraill, Andreas (brawd Simon Pedr), yn dweud, “Mae bachgen yma sydd â phum torth haidd a dau bysgodyn bach ganddo. Ond dydy hynny fawr o werth hefo cymaint o bobl!” Dwedodd Iesu, “Gwnewch i’r bobl eistedd.” Roedd digon o laswellt lle roedden nhw, a dyma’r dyrfa (oedd yn cynnwys tua pum mil o ddynion) yn eistedd. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.” Felly dyma nhw’n eu casglu a llenwi deuddeg basged gyda’r tameidiau o’r pum torth haidd oedd heb eu bwyta. Ar ôl i’r bobl weld yr arwydd gwyrthiol yma, roedden nhw’n dweud, “Mae’n rhaid mai hwn ydy’r Proffwyd ddwedodd Moses ei fod yn dod i’r byd.” Gan fod Iesu’n gwybod eu bod nhw’n bwriadu ei orfodi i fod yn frenin, aeth i ffwrdd i fyny’r mynydd unwaith eto ar ei ben ei hun. Pan oedd hi’n dechrau nosi, aeth ei ddisgyblion i lawr at y llyn, a mynd i gwch i groesi’r llyn yn ôl i Capernaum. Roedd hi’n dechrau tywyllu, a doedd Iesu ddim wedi dod yn ôl atyn nhw eto. Roedd y tonnau’n dechrau mynd yn arw am fod gwynt cryf yn chwythu. Pan oedden nhw wedi rhwyfo rhyw dair neu bedair milltir, gwelon nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr i gyfeiriad y cwch. Roedden nhw wedi dychryn, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna roedden nhw’n fodlon ei dderbyn i’r cwch, ond yn sydyn roedd y cwch wedi cyrraedd y lan roedden nhw’n anelu ati. Y diwrnod wedyn roedd tyrfa o bobl yn dal i ddisgwyl yr ochr draw i’r llyn. Roedden nhw’n gwybod mai dim ond un cwch bach oedd wedi bod yno, a bod y disgyblion wedi mynd i ffwrdd yn hwnnw eu hunain. Doedd Iesu ddim wedi mynd gyda nhw. Roedd cychod eraill o Tiberias wedi glanio heb fod ymhell o’r lle roedden nhw wedi bwyta ar ôl i’r Arglwydd roi diolch. Felly, pan sylweddolodd y dyrfa fod Iesu ddim yno, na’i ddisgyblion chwaith, dyma nhw’n mynd i mewn i’r cychod hynny a chroesi i Capernaum i chwilio amdano. Pan ddaethon nhw o hyd iddo ar ôl croesi’r llyn, dyma nhw’n gofyn iddo, “Rabbi, pryd ddest ti yma?” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, dych chi’n edrych amdana i am eich bod wedi bwyta’r torthau a llenwi’ch boliau, dim am eich bod wedi deall arwyddocâd y wyrth. Peidiwch ymdrechu i gael y bwyd sy’n difetha, ond i gael y bwyd sy’n para i fywyd tragwyddol – fi, Mab y Dyn sy’n rhoi’r bwyd hwnnw i chi. Mae Duw y Tad wedi dangos fod sêl ei fendith arna i.” Felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud? Beth mae Duw yn ei ofyn gynnon ni?” Atebodd Iesu, “Dyma beth mae Duw am i chi ei wneud: credu ynof fi, yr un mae wedi’i anfon.” Felly dyma nhw’n gofyn iddo, “Felly gwna wyrth fydd yn arwydd clir i ni o pwy wyt ti. Byddwn ni’n credu ynot ti wedyn. Beth wnei di? Cafodd ein hynafiaid y manna i’w fwyta yn yr anialwch. Mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Rhoddodd fara o’r nefoedd iddyn nhw i’w fwyta.’ ” Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, wnaeth Moses ddim rhoi bara o’r nefoedd i chi. Ond mae fy Nhad yn rhoi bara o’r nefoedd i chi nawr – y bara go iawn. Bara Duw ydy’r un sy’n dod i lawr o’r nefoedd ac yn rhoi bywyd i’r byd.” “Syr,” medden nhw, “rho’r bara hwnnw i ni o hyn ymlaen.” Yna dyma Iesu’n datgan, “Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dych chi ddim yn credu. Bydd pawb mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy’n dod ata i. Dw i ddim wedi dod i lawr o’r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae’r hwn anfonodd fi eisiau. A dyma beth mae’r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i’n colli neb o’r rhai mae wedi’u rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy’n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i’n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.” Yna dechreuodd yr arweinwyr Iddewig gwyno amdano, am ei fod yn dweud, “Fi ydy’r bara ddaeth i lawr o’r nefoedd.” “Onid Iesu, mab Joseff, ydy e?” medden nhw, “dŷn ni’n nabod ei dad a’i fam. Sut mae’n gallu dweud, ‘Dw i wedi dod i lawr o’r nefoedd’?” “Stopiwch gwyno amdana i ymhlith eich gilydd,” meddai Iesu. “Dydy pobl ddim yn gallu dod ata i heb fod y Tad anfonodd fi yn eu tynnu nhw, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Mae’n dweud yn ysgrifau’r Proffwydi: ‘Byddan nhw i gyd yn cael eu dysgu gan Dduw.’ Mae pawb sy’n gwrando ar y Tad, ac yn dysgu ganddo, yn dod ata i. Ond does neb wedi gweld y Tad ond yr un sydd wedi dod oddi wrth Dduw – neb arall. Credwch chi fi, mae bywyd tragwyddol gan bwy bynnag sy’n credu. Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Er bod eich hynafiaid wedi bwyta’r manna yn yr anialwch, buon nhw farw. Ond mae’r bara yma’n dod i lawr o’r nefoedd i’w fwyta gan bobl, a fyddan nhw ddim yn marw. A fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd, wedi dod i lawr o’r nefoedd. Bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r bara yma yn byw am byth. Y bara fydda i’n ei roi ydy fy nghnawd i, er mwyn i’r byd gael byw.” Dyma’r arweinwyr Iddewig yn dechrau ffraeo’n filain gyda’i gilydd. “Sut all y dyn roi ei gnawd i ni i’w fwyta?” medden nhw. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd. Mae bywyd tragwyddol gan y rhai hynny sy’n bwydo ar fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i, a bydda i yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Ydy, mae fy nghnawd i yn fwyd go iawn a’m gwaed i yn ddiod go iawn. Mae’r rhai sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros mewn perthynas agos gyda mi, a dw i’n aros mewn perthynas agos gyda nhw. Yn union fel mae’r Tad byw wedi fy anfon i, a dw i’n byw o achos y Tad, bydd yr un sy’n bwydo arna i yn byw o’m hachos i. Mae’n wahanol i’r bara fwytaodd eich hynafiaid. Buon nhw farw. Ond dyma fara ddaeth i lawr o’r nefoedd, a bydd pwy bynnag sy’n ei fwyta yn byw am byth.” Roedd yn dysgu yn y synagog yn Capernaum pan ddwedodd hyn i gyd. Ond ymateb llawer o’i ddilynwyr wrth glywed y cwbl oedd, “Mae’n dweud pethau rhy galed. Pwy sy’n mynd i wrando arno?” Roedd Iesu’n gwybod fod ei ddisgyblion yn cwyno am hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi’n mynd i droi cefn arna i? Sut fydd hi pan welwch chi fi, Mab y Dyn, yn mynd i fyny i lle roeddwn i o’r blaen? Ysbryd Duw sy’n rhoi bywyd; dydy pobl o gig a gwaed ddim yn gallu. Mae beth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi yn dod o’r Ysbryd ac yn rhoi bywyd. Ac eto mae rhai ohonoch chi’n gwrthod credu.” (Roedd Iesu’n gwybod o’r dechrau cyntaf pwy oedd ddim wir yn credu, a hefyd pwy oedd yn mynd i’w fradychu e.) Aeth yn ei flaen i ddweud, “Dyma pam ddwedais i wrthoch chi fod neb yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad wedi rhoi’r gallu iddyn nhw ddod.” Ar ôl hyn dyma nifer o’i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio’i ddilyn. “Dych chi ddim am adael hefyd, ydych chi?” meddai Iesu wrth y deuddeg disgybl. “Arglwydd, at bwy awn ni?” meddai Simon Pedr, “Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol. Dŷn ni wedi dod i gredu, a dŷn ni’n gwybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.” Ond yna dyma Iesu’n dweud, “Onid fi ddewisodd chi’r deuddeg? Ac eto mae un ohonoch chi’n ddiafol!” (Jwdas, mab Simon Iscariot oedd e’n ei olygu, yr un oedd yn mynd i’w fradychu yn nes ymlaen – er ei fod yn un o’r deuddeg disgybl.)