Yn y cyfamser, roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio’i gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.” Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i’w fwyta dych chi’n gwybod dim amdano.” “Ddaeth rhywun arall â bwyd iddo’i fwyta?” meddai’r disgyblion wrth ei gilydd. “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i,” meddai Iesu, “a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi. Mae pobl yn dweud ‘Mae pedwar mis rhwng hau a medi.’ Dw i’n dweud, ‘Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae’r cynhaeaf yn barod!’ Mae’r gweithwyr sy’n medi’r cynhaeaf yn cael eu cyflog, maen nhw’n casglu’r cnwd, sef y bobl sy’n cael bywyd tragwyddol. Mae’r rhai sy’n hau a’r rhai sy’n medi yn dathlu gyda’i gilydd! Mae’r hen ddywediad yn wir: ‘Mae un yn hau ac arall yn medi.’ Dw i wedi’ch anfon chi i fedi cynhaeaf wnaethoch chi ddim gweithio amdano. Mae pobl eraill wedi gwneud y gwaith caled, a chithau’n casglu’r ffrwyth.”
Darllen Ioan 4
Gwranda ar Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:31-38
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos