Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 2:1-11

Ioan 2:1-11 BNET

Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno ac roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i’r briodas hefyd. Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu’n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.” Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.” Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.” Roedd chwech ystên garreg wrth ymyl (y math sy’n cael eu defnyddio gan yr Iddewon i ddal dŵr ar gyfer y ddefod o ymolchi seremonïol). Roedd pob un ohonyn nhw’n dal rhwng wyth deg a chant dau ddeg litr. Dwedodd Iesu wrth y gweision, “Llanwch yr ystenau yma â dŵr.” Felly dyma nhw’n eu llenwi i’r top. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cymerwch beth ohono a mynd ag e i lywydd y wledd.” Dyma nhw’n gwneud hynny, a dyma llywydd y wledd yn blasu’r dŵr oedd wedi’i droi’n win. (Doedd ganddo fe ddim syniad o ble roedd wedi dod, ond roedd y gweision oedd wedi codi’r dŵr yn gwybod.) Yna galwodd y priodfab ato a dweud wrtho, “Mae pobl fel arfer yn dod â’r gwin gorau allan gyntaf a’r gwin rhad yn nes ymlaen, ar ôl i’r gwesteion gael gormod i’w yfed. Pam wyt ti wedi cadw’r gorau i’r diwedd?” Y wyrth hon yn Cana Galilea oedd y gyntaf wnaeth Iesu, fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander, a dyma’i ddisgyblion yn credu ynddo.