Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 17:9-23

Ioan 17:9-23 BNET

“Dw i’n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi’u rhoi i berthyn i mi. Dw i’n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw. Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a’m pobl i ydy dy bobl di, a dw i’n cael fy anrhydeddu drwyddyn nhw. Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw’n dal yn y byd. Dw i’n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw’r rhai wyt ti wedi’u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni’n un. Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi’u cadw nhw’n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i’r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir. “Dw i’n dod atat ti nawr, ond dw i’n dweud y pethau yma tra dw i’n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi. Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae’r byd wedi’u casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o’r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg. Dŷn nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. Cysegra nhw i ti dy hun drwy’r gwirionedd; dy neges di ydy’r gwir. Dw i yn eu hanfon nhw allan i’r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. Dw i’n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi’u cysegru drwy’r gwirionedd. “Nid dim ond drostyn nhw dw i’n gweddïo. Dw i’n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw; dw i’n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi’u huno â ni er mwyn i’r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i. Dw i wedi rhoi iddyn nhw yr ysblander roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un: Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn, i’r byd gael gwybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi’u caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 17:9-23