Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 16:16-24

Ioan 16:16-24 BNET

“Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.” Dyma’i ddisgyblion yn gofyn i’w gilydd, “Beth mae’n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto’? A beth mae ‘Am fy mod i’n mynd at y Tad’ yn ei olygu? Beth ydy ystyr ‘Yn fuan iawn’? Dŷn ni ddim yn deall.” Roedd Iesu’n gwybod eu bod nhw eisiau gofyn iddo am hyn, felly meddai wrthyn nhw, “Ydych chi’n trafod beth dw i’n ei olygu wrth ddweud, ‘Yn fuan iawn bydda i wedi mynd, a fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ddim mwy. Yna’n fuan iawn wedyn byddwch yn fy ngweld i eto.’? Credwch chi fi, Byddwch chi’n galaru ac yn crio tra bydd y byd yn dathlu. Byddwch yn drist go iawn, ond bydd y tristwch yn troi’n llawenydd. Mae gwraig mewn poen pan mae’n cael babi, ond mae hi mor llawen pan mae ei babi wedi cael ei eni – mae hi’n anghofio’r poen! Yr un fath gyda chi: Dych chi’n teimlo’n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i’n eich gweld chi eto a byddwch yn dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi. Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i’w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i’w wneud. Dych chi ddim wedi gofyn am awdurdod i wneud dim hyd yn hyn. Gofynnwch a byddwch yn derbyn. Byddwch chi’n wirioneddol hapus!