“Fi ydy’r winwydden; chi ydy’r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy’n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy’n gwywo. Mae’r canghennau hynny’n cael eu casglu a’u taflu i’r tân i’w llosgi. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu. “Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.
Darllen Ioan 15
Gwranda ar Ioan 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 15:5-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos