“Fi ydy’r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy’r garddwr. Mae’n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae’n trin ac yn tocio’r gangen honno’n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni. Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi’n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi’ch cysylltu â mi.
“Fi ydy’r winwydden; chi ydy’r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy’n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy’n gwywo. Mae’r canghennau hynny’n cael eu casglu a’u taflu i’r tân i’w llosgi. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu.
“Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i. Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i’n ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i’m Tad ac wedi aros yn ei gariad e. Dw i wedi dweud y pethau yma er mwyn i chi rannu fy llawenydd i. Byddwch chi’n wirioneddol hapus! Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi’ch caru chi. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau. Dych chi’n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i’n ddweud. Dw i ddim yn eich galw chi’n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda’r gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae’r Tad wedi’i ddweud. Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon – hynny ydy, yn llawn o’r ffrwyth sy’n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i’r Tad amdano gyda fy awdurdod i.
“Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd. Os ydy’r byd yn eich casáu chi, cofiwch bob amser ei fod wedi fy nghasáu i gyntaf. Tasech chi’n perthyn i’r byd, byddai’r byd yn eich caru chi. Ond dych chi ddim yn perthyn i’r byd, achos dw i wedi’ch dewis chi allan o’r byd, felly mae’r byd yn eich casáu chi. Cofiwch beth ddwedais i wrthoch chi: ‘Dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr.’ Os ydyn nhw wedi fy erlid i, byddan nhw’n eich erlid chithau hefyd. Os ydyn nhw wedi gwneud beth dw i’n ddweud wrthyn nhw, byddan nhw’n gwneud beth dych chi’n ei ddweud. Byddan nhw’n eich trin chi felly am eich bod chi’n gweithio i mi. Y gwir ydy, dŷn nhw ddim yn nabod Duw, yr Un sydd wedi fy anfon i. Petawn i heb ddod a siarad â nhw, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond bellach, does ganddyn nhw ddim esgus am eu pechod. Mae pob un sy’n fy nghasáu i yn casáu Duw y Tad hefyd. Petaen nhw heb fy ngweld i’n gwneud pethau wnaeth neb arall erioed, fydden nhw ddim yn euog o bechod. Ond maen nhw wedi gweld, ac maen nhw wedi fy nghasáu i a’r Tad. Ond dyna oedd i fod – dyna’n union sydd wedi’i ysgrifennu yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Maen nhw wedi fy nghasáu i am ddim rheswm.’
“Mae’r un fydd yn sefyll gyda chi yn dod. Bydda i’n ei anfon atoch chi. Mae’n dod oddi wrth y Tad – yr Ysbryd sy’n dangos i chi beth sy’n wir. Bydd e’n dweud wrth bawb amdana i. A byddwch chi’n dweud amdana i hefyd, am eich bod wedi bod gyda mi o’r dechrau.