Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 15:1-17

Ioan 15:1-17 BNET

“Fi ydy’r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy’r garddwr. Mae’n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae’n trin ac yn tocio’r gangen honno’n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni. Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi’n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi’ch cysylltu â mi. “Fi ydy’r winwydden; chi ydy’r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy’n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy’n gwywo. Mae’r canghennau hynny’n cael eu casglu a’u taflu i’r tân i’w llosgi. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu. “Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i. Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i’n ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i’m Tad ac wedi aros yn ei gariad e. Dw i wedi dweud y pethau yma er mwyn i chi rannu fy llawenydd i. Byddwch chi’n wirioneddol hapus! Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi’ch caru chi. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau. Dych chi’n amlwg yn ffrindiau i mi os gwnewch chi beth dw i’n ddweud. Dw i ddim yn eich galw chi’n weision bellach. Dydy meistr ddim yn trafod ei fwriadau gyda’r gweision. Na, ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae’r Tad wedi’i ddweud. Dim chi ddewisodd fi; fi ddewisodd chi, i chi fynd allan a byw bywydau ffrwythlon – hynny ydy, yn llawn o’r ffrwyth sy’n aros. Ac i chi gael beth bynnag ofynnwch chi i’r Tad amdano gyda fy awdurdod i. “Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 15:1-17