“Arglwydd,” meddai Philip, “dangos y Tad i ni, a fydd angen dim mwy arnon ni!” Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti’n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’? Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy’n byw ynof fi, sydd ar waith. Credwch beth dw i’n ddweud – dw i yn y Tad ac mae’r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i’n eu gwneud. Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw’n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad. Bydda i’n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i’w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu’r Tad. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe’i gwnaf.
Darllen Ioan 14
Gwranda ar Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:8-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos