Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu’n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.” Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy roedd e’n sôn. Roedd y disgybl oedd Iesu’n ei garu yn eistedd agosaf ato. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu. Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy wyt ti’n sôn?” Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi’i drochi’n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a’i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti’n mynd i’w wneud.” Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu’n ei olygu. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu’n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu’r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi’n nos.
Darllen Ioan 13
Gwranda ar Ioan 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 13:21-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos