Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.” (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi’u hysgrifennu amdano, a’u bod nhw wedi digwydd iddo.)
Darllen Ioan 12
Gwranda ar Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:12-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos