Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 10:22-42

Ioan 10:22-42 BNET

Roedd y gaeaf wedi dod, ac roedd hi’n amser dathlu Gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Roedd Iesu yno yng nghwrt y deml, yn cerdded o gwmpas Cyntedd Colofnog Solomon. Dyma’r arweinwyr Iddewig yn casglu o’i gwmpas, a gofyn iddo, “Am faint wyt ti’n mynd i’n cadw ni’n disgwyl? Dwed wrthon ni’n blaen os mai ti ydy’r Meseia.” “Dw i wedi dweud,” meddai Iesu, “ond dych chi’n gwrthod credu. Mae’r gwyrthiau dw i yn eu gwneud ar ran fy Nhad yn dweud y cwbl. Ond dych chi ddim yn credu am eich bod chi ddim yn ddefaid i mi. Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i, a dw i’n eu nabod nhw. Dw i’n rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw, a fyddan nhw byth yn mynd i ddistryw. Does neb yn gallu eu cipio nhw oddi arna i. Fy Nhad sydd wedi’u rhoi nhw i mi, ac mae e’n fwy na phawb a phopeth. Does neb yn gallu eu cipio nhw o afael fy Nhad. Dw i a’r Tad yn un.” Unwaith eto dyma’r arweinwyr Iddewig yn codi cerrig i’w labyddio’n farw, ond meddai Iesu wrthyn nhw, “Dych chi wedi fy ngweld i’n gwneud lot fawr o bethau da – gwyrthiau’r Tad. Am ba un o’r rhain dych chi’n fy llabyddio i?” “Dŷn ni ddim yn dy labyddio am wneud unrhyw beth da,” atebodd yr arweinwyr Iddewig, “ond am gablu! Am dy fod ti sydd ond yn ddynol, yn honni mai Duw wyt ti.” Ond atebodd Iesu nhw, “Mae’n dweud yn eich ysgrifau sanctaidd chi, ‘Dwedais, “Duwiau ydych chi.”’ Dych chi ddim yn gallu diystyru’r ysgrifau sanctaidd! Felly os oedd yr arweinwyr ddwedodd Duw hynny wrthyn nhw yn ‘dduwiau’ sut dych chi’n gallu dweud mod i’n cablu dim ond am fy mod i wedi dweud ‘Fi ydy mab Duw’? Y Tad ddewisodd fi a’m hanfon i i’r byd. Os dw i ddim yn gwneud gwaith fy Nhad peidiwch credu ynof fi. Ond os dw i yn gwneud yr un fath â’m Tad, credwch yn yr hyn dw i’n ei wneud er eich bod chi ddim yn credu ynof fi. Wedyn dewch i wybod a deall fod y Tad ynof fi, a minnau yn y Tad.” Dyma nhw’n ceisio’i ddal unwaith eto, ond llwyddodd i ddianc o’u gafael nhw. Aeth Iesu yn ôl ar draws afon Iorddonen eto i’r lle roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn bedyddio yn y dyddiau cynnar. Arhosodd yno a daeth llawer o bobl allan ato. Roedden nhw’n dweud, “Wnaeth Ioan ddim gwneud unrhyw wyrth, ond roedd popeth ddwedodd e am y dyn yma yn wir.” A daeth llawer o bobl yno i gredu yn Iesu.