Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl. Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. Daeth dyn o’r enw Ioan i’r golwg. Duw oedd wedi anfon Ioan i roi tystiolaeth – i ddweud wrth bawb am y golau, er mwyn i bawb ddod i gredu drwy’r hyn oedd yn ei ddweud. Dim Ioan ei hun oedd y golau; dweud wrth bobl am y golau roedd e’n ei wneud. Roedd y golau go iawn, sy’n rhoi golau i bawb, ar fin dod i’r byd. Roedd y Gair yn y byd, ac er mai fe greodd y byd, wnaeth pobl y byd mo’i nabod. Daeth i’w wlad ei hun, a chael ei wrthod gan ei bobl ei hun. Ond cafodd pawb wnaeth ei dderbyn, (sef y rhai sy’n credu ynddo) hawl i ddod yn blant Duw. Dim am fod ganddyn nhw waed Iddewig (Dim canlyniad perthynas rywiol a chwant gŵr sydd yma); Duw sydd wedi’u gwneud nhw’n blant iddo’i hun!
Darllen Ioan 1
Gwranda ar Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 1:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos