Jeremeia 16
16
Jeremeia ddim i briodi, galaru na mynd i barti
1Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Paid priodi na chael plant yn y wlad yma. 3Achos dyma sy’n mynd i ddigwydd i’r plant fydd yn cael eu geni yma, ac i’w mamau a’u tadau nhw: 4byddan nhw’n marw o afiechydon erchyll. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn eu claddu nhw. Byddan nhw’n gorwedd fel tail ar wyneb y tir, wedi’u lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn, a bydd yr adar a’r anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff.”
5Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid mynd i dŷ lle mae rhywun wedi marw. Paid mynd i alaru nac i gydymdeimlo. Dw i ddim am roi llwyddiant na heddwch i’r bobl yma eto. Dw i ddim am ddangos caredigrwydd na thrugaredd atyn nhw. 6Bydd yr arweinwyr a’r bobl gyffredin yn marw yn y wlad yma. Fyddan nhw ddim yn cael eu claddu, a fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw. Fydd pobl ddim yn torri eu hunain â chyllyll#Lefiticus 19:28; Deuteronomium 14:1 a siafio’u pennau i ddangos mor drist ydyn nhw. 7Fydd neb yn mynd â bwyd i’r rhai sy’n galaru, i godi eu calonnau nhw, na rhoi gwin iddyn nhw chwaith, i’w cysuro ar ôl iddyn nhw golli mam neu dad.
8“Paid mynd i rywle lle mae pobl yn gwledda a phartïo chwaith. 9Dw i, yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i’n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma – sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd!
10“Pan fyddi di’n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw’n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae’r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi’i wneud o’i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’ 11Dwed di wrthyn nhw mai dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill, troi cefn arna i a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw. 12Ond dych chi’n waeth na’ch hynafiaid! Dych chi’n ystyfnig, yn dilyn y duedd ynoch chi i wneud drwg, ac wedi gwrthod gwrando arna i. 13Felly dw i’n mynd i’ch taflu chi allan o’r wlad yma, a’ch gyrru chi i wlad dych chi a’ch hynafiaid yn gwybod dim amdani. Byddwch chi’n addoli duwiau eraill yno, nos a dydd. Fydda i ddim yn teimlo’n sori drosoch chi!’”
Gobaith er gwaetha’r drychineb
14“Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai’r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o’r Aifft …’ 15bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o’r gwledydd lle roedd wedi’u gyrru nhw.’ Achos bryd hynny dw i’n mynd i ddod â nhw yn ôl i’r wlad rois i i’w hynafiaid nhw.”
16Ond ar hyn o bryd, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i’n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i’n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw’n eu hela nhw o’r mynyddoedd a’r bryniau lle maen nhw’n cuddio yn y creigiau. 17Achos dw i’n gweld popeth maen nhw yn ei wneud – y cwbl! Allan nhw ddim cuddio’u pechodau oddi wrtho i. 18Rhaid iddyn nhw’n gyntaf ddiodde’r gosb lawn maen nhw’n ei haeddu am eu drygioni a’u pechod. Maen nhw wedi llygru fy nhir i gyda delwau marw o’u heilun-dduwiau ffiaidd, a llenwi fy etifeddiaeth â’u defodau afiach.”
Hyder Jeremeia yn yr ARGLWYDD
Jeremeia:
19“O ARGLWYDD, ti sy’n rhoi nerth i mi, ac yn fy amddiffyn;
ti ydy’r lle saff i mi ddianc iddo pan dw i mewn trafferthion.
Bydd cenhedloedd o bob rhan o’r byd
yn dod atat ti ac yn dweud:
‘Roedd ein hynafiaid wedi’u magu i addoli delwau diwerth,
pethau da i ddim oedd yn gallu helpu neb.
20Ydy pobl yn gallu gwneud eu duwiau eu hunain?
Na! Dydy pethau felly ddim yn dduwiau go iawn.’”
Yr ARGLWYDD
21“Felly, dw i’n mynd i’w dysgu nhw,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n mynd i ddangos iddyn nhw unwaith ac am byth mor gryf ydw i, a byddan nhw’n gwybod mai’r ARGLWYDD ydy fy enw i.”
Dewis Presennol:
Jeremeia 16: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023