Pwy ohonoch chi sy’n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall? Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae’n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni heb frolio am y peth. Ond os ydych chi’n llawn cenfigen chwerw ac uchelgais hunanol does gynnoch chi ddim lle i frolio, am fod peth felly yn gwbl groes i’r gwirionedd. Dim dyna’r math o ‘ddoethineb’ mae Duw’n ei roi i bobl! Yn hollol i’r gwrthwyneb! – mae ‘doethineb’ felly yn beth bydol, anysbrydol, ac yn dod o’r diafol ei hun! Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi’n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni. Ond mae’r doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae’n gwbl ddiduedd a diragrith.
Darllen Iago 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Iago 3:13-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos