Iago 2:2-4
Iago 2:2-4 BNET
Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o’ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. Petaech chi’n rhoi’r sylw i gyd i’r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma’r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na’r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi’n anghywir?

