Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i’r tir aeth drwy’r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea’r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a’r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen. Mae’r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth. Ti wedi lluosogi’r genedl, a’i gwneud yn hapus iawn; maen nhw’n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu’r ysbail. Achos rwyt ti wedi torri’r iau oedd yn faich arnyn nhw, a’r ffon oedd yn curo’u cefnau nhw – sef gwialen y meistr gwaith – fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. Bydd yr esgidiau fu’n sathru maes y gâd, a’r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i’r fflamau i’w llosgi.
Darllen Eseia 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 9:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos