Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i’n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth – fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd. Gwnes i e’n dyst i bobloedd, yn arweinydd yn rheoli gwledydd.” Byddi di’n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod, a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod di yn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw, Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di. Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae’n agos! Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau – troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau. Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â’ch ffyrdd chi –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Fel mae’r nefoedd gymaint uwch na’r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chi, a’m bwriadau i yn well na’ch bwriadau chi. Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta, felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith – mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.
Darllen Eseia 55
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 55:3-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos