Pwy fyddai’n credu’r neges glywon ni? Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD? Wrth iddo dyfu o’i flaen doedd e’n ddim mwy na brigyn, neu wreiddyn mewn tir sych. O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno, dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol. Cafodd ei ddirmygu a’i wrthod gan bobl; yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen. Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo’i werthfawrogi. Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno’i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni’n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a’i guro a’i gam-drin gan Dduw. Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau’n iawn i ni; ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu. Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid – pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe. Cafodd ei gam-drin a’i boenydio, wnaeth e ddweud dim, fel oen yn cael ei arwain i’r lladd-dy. Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae’n cael ei chneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg – a phwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw, a’i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela.
Darllen Eseia 53
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 53:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos