Nawr, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel: “Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di’n rhydd! Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti! Pan fyddi di’n mynd drwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded drwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di. Achos fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw di, Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di! Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti, Cwsh a Seba yn dy le di.
Darllen Eseia 43
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 43:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos