Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 13

13
Mae hi ar ben ar Israel!
1Pan oedd llwyth Effraim yn siarad
roedd pawb yn crynu –
roedd pawb yn ei barchu yn Israel.
Ond buont ar fai yn addoli Baal,
a dyna oedd eu diwedd.
2Ac maen nhw’n dal i bechu!
Maen nhw wedi gwneud delwau o fetel tawdd;
eilunod cywrain wedi’u gwneud o arian –
ond dim ond gwaith llaw crefftwyr ydy’r cwbl!
Mae yna ddywediad amdanyn nhw:
“Mae’r bobl sy’n aberthu
yn cusanu teirw!”
3Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,
neu’r gwlith sy’n diflannu’n gynnar;
fel us yn cael ei chwythu o’r llawr dyrnu,
neu fwg sy’n dianc drwy ffenest.
4“Ond fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw,
ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.
Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –
Fi ydy’r unig un sy’n achub!
5Fi wnaeth fwydo’ch pobl yn yr anialwch,
mewn tir sych, diffaith.#13:5 tir sych, diffaith Buodd Israel yn crwydro yn yr anialwch am 40 mlynedd ar ôl dianc o’r Aifft. #Deuteronomium 8:11-17
6Ond wedi’u bwydo, roedden nhw’n fodlon –
mor fodlon nes iddyn nhw droi’n falch,
ac yna fy anghofio i!
7Felly bydda i’n rhuthro arnyn nhw fel llew,
ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.
8Bydda i’n ymosod arnyn nhw
fel arth wedi colli ei chenawon;
a’u llarpio nhw fel llew,
neu anifail gwyllt yn rhwygo’i ysglyfaeth.
9Dw i’n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!
Pwy sydd yna i dy helpu di?
10Ble mae dy frenin,
iddo fe dy achub di?
Ble mae’r arweinwyr yn dy drefi?
Ti ofynnodd, ‘Rho frenin a swyddogion i mi’.#1 Samuel 8:5,6
11Wel, rhois frenin i ti am fy mod yn ddig,
a dw i wedi’i gipio i ffwrdd am fy mod yn fwy dig fyth!#1 Samuel 10:17-24; 1 Samuel 15:26
12Mae’r dyfarniad ar Effraim#13:12 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. wedi’i gofnodi,
a’i gosb wedi’i gadw’n saff iddo.
13Bydd yn dod yn sydyn, fel poenau ar wraig sy’n cael babi;
mae’r amser wedi dod, ac mae’r plentyn dwl
yn gwrthod dod allan o’r groth, a byw.
14Ydw i’n mynd i’w hachub nhw o fyd y meirw?#1 Corinthiaid 15:55
Ydw i’n mynd i’w rhyddhau o afael marwolaeth?
O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?
O fedd! Ble mae dy ddinistr di?
Fydda i’n dangos dim trugaredd!”
Bydd Samaria’n cael ei dinistrio
15Falle ei fod yn llwyddo fel brwyn mewn cors,
ond bydd yr ARGLWYDD yn dod â gwynt poeth y dwyrain
i fyny o gyfeiriad yr anialwch.
Bydd y dŵr yn sychu, a’r ffynhonnau’n diflannu,
a’r bwydydd yn y stordai yn cael eu difetha.
16Bydd Samaria#13:16 Samaria Prifddinas Israel. yn cael ei galw i gyfri
am wrthryfela yn erbyn ei Duw.
Bydd y bobl yn cael eu lladd yn y rhyfel,
plant bach yn cael eu curo i farwolaeth,
a’r gwragedd beichiog yn cael eu rhwygo’n agored.#2 Brenhinoedd 8:12

Dewis Presennol:

Hosea 13: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd