Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai’n gwneud beth oedd wedi’i addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo! A dyma ddwedodd e: “Dw i’n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi’i addo iddo. Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw’n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw’n ei addo. Mae’r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi’i ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl. Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai’n gwneud beth roedd wedi’i addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw. Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni’n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi’i roi i ni. Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o’n blaenau ni, tu ôl i’r llen, i mewn i’r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw.
Darllen Hebreaid 6
Gwranda ar Hebreaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 6:13-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos