Duw wnaeth greu popeth, a fe sy’n cynnal popeth, felly mae’n berffaith iawn iddo adael i lawer o feibion a merched rannu ei ysblander. Drwy i Iesu ddioddef, roedd Duw yn ei wneud e’n arweinydd perffaith i’w hachub nhw. Mae’r un sy’n glanhau pobl, a’r rhai sy’n cael eu glanhau yn perthyn i’r un teulu dynol. Felly does gan Iesu ddim cywilydd galw’r bobl hynny yn frodyr a chwiorydd. Mae’n dweud: “Bydda i’n dweud wrth fy mrodyr a’m chwiorydd pwy wyt ti; ac yn canu mawl i ti gyda’r rhai sy’n dy addoli.” Ac wedyn, “Dw i’n mynd i drystio Duw hefyd.” Ac eto, “Dyma fi, a’r plant mae Duw wedi’u rhoi i mi.” Gan ein bod ni’r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu’n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy’n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach. Pobl sy’n blant i Abraham mae Iesu’n eu helpu, nid angylion! Felly roedd rhaid i Iesu gael ei wneud yn union yr un fath â ni, ei “frodyr a’i chwiorydd.” Dim ond wedyn y gallai fod yn archoffeiriad trugarog a ffyddlon yn gwasanaethu Duw, ac yn cyflwyno aberth fyddai’n delio gyda phechodau pobl a dod â nhw i berthynas iawn gyda Duw. Am ei fod e’i hun wedi dioddef ac wedi cael ei demtio, mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn.
Darllen Hebreaid 2
Gwranda ar Hebreaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 2:10-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos