Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai’n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd! A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi’i haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi’r un addewid iddyn nhw hefyd.) Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi’i chynllunio a’i hadeiladu, sef y ddinas sy’n aros am byth. Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi’i addo. Felly, o’r un oedd yn rhy hen i gael plant, cafodd Abraham gymaint o ddisgynyddion mae’n amhosib eu cyfri i gyd – maen nhw fel y sêr yn yr awyr neu’r tywod ar lan y môr!
Darllen Hebreaid 11
Gwranda ar Hebreaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 11:8-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos