Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dŷn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto’n ei weld. Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw. Ffydd sy’n ein galluogi ni i ddeall mai’r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd drwy i Dduw roi gorchymyn i’r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o’n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i’w gweld o’r blaen. Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni. Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o’r bywyd hwn heb orfod mynd drwy’r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi’i gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw. Mae’n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae’n rhaid i’r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a’i fod yn gwobrwyo pawb sy’n ei geisio o ddifri. Ffydd Noa wnaeth iddo wrando’n ofalus ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi’i rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o’r blaen. Wrth gredu roedd e’n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw.
Darllen Hebreaid 11
Gwranda ar Hebreaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 11:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos