Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi’i anfon. Roedd y bobl yn parchu’r ARGLWYDD eto. Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i’r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai’r ARGLWYDD.” Dyma’r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw’n bwrw iddi â’r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Darllen Haggai 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Haggai 1:12-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos