Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw’n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e’n ei gwisgo). Wedyn dyma nhw’n ei daflu i mewn i’r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.) Pan oedden nhw’n eistedd i lawr i fwyta, dyma nhw’n gweld carafán o Ismaeliaid yn teithio o gyfeiriad Gilead. Roedd ganddyn nhw gamelod yn cario gwm pêr, balm, a myrr i lawr i’r Aifft. A dyma Jwda’n dweud wrth ei frodyr, “Dŷn ni’n ennill dim drwy ladd ein brawd a cheisio cuddio’r ffaith. Dewch, gadewch i ni ei werthu e i’r Ismaeliaid acw. Ddylen ni ddim gwneud niwed iddo. Wedi’r cwbl, mae yn frawd i ni.” A dyma’r brodyr yn cytuno. Felly pan ddaeth y masnachwyr o Midian heibio, dyma nhw’n tynnu Joseff allan o’r pydew a’i werthu i’r Ismaeliaid am 20 darn o arian. A dyma’r Ismaeliaid yn mynd â Joseff gyda nhw i’r Aifft.
Darllen Genesis 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 37:23-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos