“Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. A dyma un ohonyn nhw’n dweud, “Dw i’n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi’n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i’n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae fy meistr yn hen ddyn hefyd.” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i’n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i’n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma’r flwyddyn nesa, a bydd Sara’n cael mab.” Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi’n ceisio gwadu’r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai’r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”
Darllen Genesis 18
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 18:9-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos