Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 16

16
Ishmael yn cael ei eni
1Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o’r enw Hagar, o wlad yr Aifft. 2A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy’r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y ca i blant drwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho. 3Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.
4Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar dyma hi’n beichiogi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi’n disgwyl babi dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres. 5Dyma Sarai’n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae’r bai mod i’n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi’n disgwyl babi dyma hi’n dechrau edrych i lawr arna i. Boed i’r ARGLWYDD ddangos pwy sydd ar fai!” 6Ond atebodd Abram, “Gan mai dy forwyn di ydy hi, gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.
7Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr. 8“Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble wyt ti wedi dod? I ble ti’n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.” 9Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.” 10Wedyn aeth ymlaen i ddweud, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di; bydd cymaint ohonyn nhw.” 11A dyma’r angel yn dweud wrthi:
“Ti’n feichiog, ac yn mynd i gael mab.
Rwyt i roi’r enw Ishmael#16:11 h.y. mae Duw yn clywed. iddo,
am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi’i ddiodde.
12Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt.
Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e.
Bydd hyd yn oed yn tynnu’n groes i’w deulu ei hun.”
13Dyma Hagar yn galw’r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef ‘y Duw sy’n edrych arna i’). “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy’n edrych ar fy ôl i?” meddai. (14A dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi.#16:14 h.y. Ffynnon yr Un byw sy’n fy ngweld i. Mae hi rhwng Cadesh a Bered.)
15Cafodd Hagar ei babi – mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael. 16(Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)

Dewis Presennol:

Genesis 16: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda