Rywbryd wedyn, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag Abram mewn gweledigaeth, “Paid bod ag ofn Abram. Fi ydy dy darian di. Byddi’n derbyn gwobr fawr.” Ond meddai Abram, “O Feistr, ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt os bydda i’n marw heb gael mab? Elieser o Ddamascus fydd yn cael popeth sydd gen i! Dwyt ti ddim wedi rhoi plant i mi, felly caethwas sydd wedi bod gyda mi ers iddo gael ei eni fydd yn etifeddu’r cwbl!” Ond dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Na, dim hwn fydd yn cael dy eiddo di. Dy fab naturiol di dy hun fydd yn etifeddu dy eiddo di.”
Darllen Genesis 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 15:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos