Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy’n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a’r holl greaduriaid a phryfed sy’n byw arni.” Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.”
Darllen Genesis 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 1:26-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos