Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi’r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy’n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a’r holl greaduriaid a phryfed sy’n byw arni.” Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun. Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw. Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw. A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi’r planhigion sydd â hadau a’r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. A dw i wedi rhoi’r holl blanhigion yn fwyd i’r bywyd gwyllt a’r adar a’r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi’i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.
Darllen Genesis 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 1:24-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos