Dw i’n ei chael hi’n anodd credu eich bod chi’n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi’ch galw chi ato’i hun drwy haelioni’r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy’n honni bod yn ‘newyddion da’. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy’n eich drysu chi drwy ystumio’r newyddion da am y Meseia a’i wneud yn rhywbeth arall. Melltith Duw ar bwy bynnag sy’n cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni’n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o’r nefoedd, melltith Duw arno! Dw i wedi dweud o’r blaen a dw i’n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! Felly, ydw i’n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i’n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i’r Meseia. Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy’r newyddion da yma dw i’n ei gyhoeddi. Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir. Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i’n ei wneud pan o’n i’n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i’n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw. Rôn i’n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e’n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i’w ddilyn. Gwelodd yn dda i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi’r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i’n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus. Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno. Welais i ddim un o’r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. Dyna’r gwir – o flaen Duw, heb air o gelwydd! Ar ôl hynny dyma fi’n mynd i Syria a Cilicia. Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i’n bersonol, ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae’r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae’n cyhoeddi’r newyddion da roedd e’n ceisio ei ddinistrio o’r blaen!” Roedden nhw’n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.
Darllen Galatiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Galatiaid 1:6-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos